2 Samuel 11

Dafydd a Bathseba

1Yn y gwanwyn, sef yr adeg pan fyddai brenhinoedd yn arfer mynd i ryfela, dyma Dafydd yn anfon Joab a'i fyddin allan. Dyma Joab a'i swyddogion, a holl fyddin Israel, yn mynd ac yn trechu byddin yr Ammoniaid a chodi gwarchae at ddinas Rabba.
11:1 Rabba Prifddinas yr Ammoniaid (yn yr ardal lle mae Amman heddiw, sef prifddinas Gwlad yr Iorddonen).
Ond arhosodd Dafydd yn Jerwsalem.

2Yn hwyr un p'nawn, dyma Dafydd yn codi ar ôl bod yn gorffwys, a mynd i gerdded ar do fflat y palas. O'r fan honno dyma fe'n digwydd gweld gwraig yn ymolchi. Roedd hi'n wraig arbennig o hardd. 3Dyma Dafydd yn anfon rhywun i ddarganfod pwy oedd hi, a daeth hwnnw yn ôl gyda'r ateb, “Bathseba ferch Eliam, gwraig Wreia yr Hethiad,
11:3 Wreia yr Hethiad Roedd Wreia yn un o'r ‛Tri deg‛ (milwyr gorau Dafydd) – gw. 2 Samuel 23:39
ydy hi.”
4Felly dyma Dafydd yn anfon negeswyr i'w nôl hi. Ac wedi iddi ddod dyma fe'n cael rhyw gyda hi. (Roedd hi newydd fod trwy'r ddefod o buro ei hun ar ôl ei misglwyf.) Yna dyma hi'n mynd yn ôl adre.

5Pan wnaeth hi ddarganfod ei bod hi'n feichiog, dyma hi'n anfon neges at Dafydd i ddweud wrtho.

6Felly dyma Dafydd yn anfon neges at Joab, yn gofyn iddo anfon Wreia yr Hethiad ato. A dyma Joab yn gwneud hynny. 7Pan gyrhaeddodd Wreia, dyma Dafydd yn ei holi sut oedd Joab a'r fyddin, a beth oedd hanes y rhyfel. 8Yna dyma Dafydd yn dweud wrtho, “Dos adre i ymlacio
11:8 ymlacio Hebraeg, “golchi dy draed”. Gall fod ystyr dwbl i'r Hebraeg, gan fod traed yn cael ei ddefnyddio fel mwythair am yr organau rhywiol.
.” A pan adawodd Wreia y palas, dyma'r brenin yn anfon anrheg ar ei ôl.
9Ond wnaeth Wreia ddim mynd adre. Arhosodd gyda'r gweision eraill wrth ddrws y palas.

10Pan glywodd Dafydd fod Wreia heb fynd adre, galwodd amdano a gofyn iddo, “Pam wnest ti ddim mynd adre neithiwr? Ti wedi bod i ffwrdd ers amser hir.” 11Atebodd Wreia, “Mae'r Arch, a milwyr Israel a Jwda yn aros mewn pebyll. Mae Joab, y capten, a'r swyddogion eraill, yn gwersylla yn yr awyr agored. Fyddai hi'n iawn i mi fynd adre i fwyta ac yfed a chysgu gyda ngwraig? d Ar fy llw
11:11 ar fy llw Hebraeg, “mor sicr â dy fod ti'n fyw”
, allwn i byth wneud y fath beth!”

12Felly dyma Dafydd yn dweud wrtho, “Aros yma am ddiwrnod arall. Gwna i dy anfon di yn ôl yfory.” Felly dyma Wreia yn aros yn Jerwsalem am ddiwrnod arall. Drannoeth 13dyma Dafydd yn gwahodd Wreia i fwyta ac yfed gydag e, ac yn ei feddwi. Ond pan aeth Wreia allan gyda'r nos dyma fe'n cysgu allan eto gyda gweision ei feistr. Aeth e ddim adre. 14Felly, y bore wedyn, dyma Dafydd yn gofyn i Wreia fynd â llythyr i Joab. 15Dyma beth roedd wedi ei ysgrifennu yn y llythyr, “Rho Wreia yn y rheng flaen lle mae'r brwydro galetaf. Yna ciliwch yn ôl oddi wrtho, a'i adael i gael ei daro a'i ladd.”

16Roedd Joab wedi bod yn cadw golwg ar ddinas Rabba. A dyma fe'n rhoi Wreia lle roedd yn gwybod fod milwyr gorau'r gelyn yn ymladd. 17Dyma filwyr y gelyn yn mentro allan i ymosod. Cafodd Wreia a nifer o filwyr eraill Dafydd eu lladd.

18Yna dyma Joab yn anfon adroddiad at Dafydd i ddweud beth oedd wedi digwydd yn y frwydr. 19Dwedodd wrth y negesydd, “Pan fyddi'n rhoi'r adroddiad o beth ddigwyddodd i'r brenin, 20falle y bydd e'n gwylltio a dechrau holi: ‘Pam aethoch chi mor agos i'r ddinas i ymladd? Oeddech chi ddim yn sylweddoli y bydden nhw'n saethu o ben y waliau? 21Pwy laddodd Abimelech fab Gideon
11:21 Gideon Hebraeg,  Jerwbbesheth – gw. Barnwyr 6:32.
yn Thebes? Gwraig yn gollwng maen melin arno o ben y wal! g Pam aethoch chi mor agos i'r wal?’ Yna dywed wrtho ‘Cafodd dy was Wreia yr Hethiad ei ladd hefyd.’”

22Felly, dyma'r negesydd yn mynd ac yn rhoi'r adroddiad yn llawn i Dafydd. 23Meddai wrtho, “Daeth milwyr y gelyn allan i ymladd ar y tir agored. Ond dyma ni'n eu gyrru nhw yn ôl yr holl ffordd at giât y ddinas. 24Ond wedyn dyma'r bwasaethwyr yn saethu o ben y wal, a lladd rhai o dy swyddogion. Roedd dy was Wreia yr Hethiad yn un ohonyn nhw.”

25Dyma Dafydd yn dweud wrth y negesydd, “Dywed wrth Joab, ‘Paid poeni am y peth. Fel yna mae hi mewn rhyfel. Rhai'n cael eu lladd, eraill ddim. Brwydra'n galetach yn erbyn y ddinas, a'i choncro!’ Annog e yn ei flaen!”

26Pan glywodd Bathseba fod ei gŵr wedi marw, bu'n galaru amdano. 27Ond wedi i'r cyfnod o alaru ddod i ben, dyma Dafydd yn anfon amdani a dod â hi i'w balas. Dyma hi'n dod yn wraig iddo, a chafodd fab iddo.

Y proffwyd Nathan yn ceryddu Dafydd

Doedd yr Arglwydd ddim yn hapus o gwbl am beth roedd Dafydd wedi ei wneud,

Copyright information for CYM